Milwyr Seion cym'rwn galon,
Gwisgwn arfau'r nef yn llawn,
Byddwn gedyrn yn y frwydr,
Tra parhao'n byr brydnawn;
Y mae hyfryd fore tawel
Rhanu'r ysbail bron gerllaw;
Melus seiniwn fuddugoliaeth,
Cyn bo hir yr ochr draw.
O fy enaid, dysgwyl ronyn,
Paid er dim a llwfrhau;
Er cael llawer brwydr galed,
Y mae'r olaf yn nesâu;
Caf gyfarfod
â'm cydfilwyr,
Aeth trwy'r frwydr o fy mlaen;
Yna seiniwn, "Buddugoliaeth!"
O un galon ac un gân.
1: An. (Cas. o dros 2000 o Hymnau [S Roberts] 1841)2: 1782 Dafydd William 1720-94 [Mesur: 8787D] gwelir: Duw llefara wrth fy ysbryd Iesu cyfaill pechaduriaid Wele Iesu'r Pen rhyfelwr |
Soldiers of Zion, let us take heart,
Let us wear the full armour of heaven,
Be firm in the battle,
While the short evening lasts;
The delightful quiet morning of
Sharing the spoils is almost at hand;
Sweetly we shall sound victory,
Before long on yonder side.
O my soul, wait a while,
Do not for anything lose heart;
Although getting many a hard battle,
The last one is approaching;
I shall get to meet
with my fellow-soldiers,
Who went through the battle before me;
Then let us sound, "Victory!"
From one heart and one song.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|